Adroddiad Corfforaethol 2022/23

English Cymraeg

Mae'r gyfres hon o adroddiadau blynyddol yn rhoi cipolwg ar y gwaith craidd rydym yn ei wneud i ddiogelu defnyddwyr a hybu ymddiriedaeth a hyder mewn gwasanaethau cyfreithiol. Maen nhw'n rhan allweddol o wneud yn siŵr ein bod ni'n agored ac yn dryloyw, gan helpu'r proffesiwn a'r cyhoedd i ddeall y gwaith rydym ni'n ei wneud, gan rannu gwybodaeth am newidiadau yn y sector ar yr un pryd.

Mae ein gweithgarwch gorfodi wrth galon ein gwaith fel rheoleiddiwr budd y cyhoedd. Boed yn achos sy'n ymwneud ag un cyfreithiwr neu'n sgandal Horizon Swyddfa'r Post, gyda mwy nag 20 o gyfreithwyr a chwmnïau'n destun ymchwiliad, mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu pan fydd pethau'n mynd o chwith. Byddwn yn camu i mewn i ddiogelu'r cyhoedd a chynnal hyder ac ymddiriedaeth mewn gwasanaethau cyfreithiol.

Mae'r adroddiadau hyn yn dangos bod y sector cyfreithiol yn newid. Er enghraifft, gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer a maint y cwmnïau a fethodd yn 2022/23. Roedd hyn yn cynnwys cynnal ein hymyriad mwyaf erioed, yn y cwmni cyfreithiol Axiom Ince, lle daeth amheuaeth o dwyll i'r amlwg, gyda dros £60m o arian cleientiaid ar goll.

Rydym wedi sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu diogelu yn yr achosion hyn, ond mae angen i ni hefyd ymateb i risgiau newidiol yn y sector. Fe wnaethom lansio adolygiad o'n dull o ddiogelu defnyddwyr ar ddechrau 2024 i wneud yn siŵr ei fod yn addas ar gyfer y dyfodol. Mae misoedd o ymgysylltu manwl â'r cyhoedd, y proffesiwn a grwpiau cynrychioli defnyddwyr wedi cyfrannu at ein hymgynghoriad, a lansiwyd gennym ym mis Tachwedd. Mae'n canolbwyntio ar newidiadau posibl i sut a phryd mae cwmnïau cyfreithiol yn delio ag arian cleientiaid, a sut mae'r arian hwn yn cael ei ddiogelu.

Maes arall rydym yn ymwybodol o newidiadau yn y farchnad yw ynghylch nifer uchel o hawliadau gan ddefnyddwyr. O'i wneud yn dda, gall helpu mwy o bobl i gael mynediad at gyfiawnder, ond mae gennym bryderon cynyddol bod rhai problemau sylweddol yn y maes hwn o'r farchnad. Dangoswyd hyn yn achos yr SSB Group a Pure Legal, lle rydym yn parhau â'n hymchwiliadau. Fodd bynnag, mae hefyd yn codi materion llawer ehangach sy'n torri ar draws nifer o sectorau – o yswiriant i gyllid cyfreitha trydydd parti. Rydym yn gweithio gydag eraill i ddeall a mynd i'r afael â'r materion hyn, er mwyn i ni allu sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu diogelu'n briodol.

Rydym hefyd yn cydnabod y gallwn wneud mwy i wella sut rydym yn nodi risgiau newydd a risgiau sy'n dod i'r amlwg yn y sector, er mwyn i ni allu camu i mewn yn gynt i'w rheoli. Mae defnyddio ein data'n effeithiol i adnabod patrymau yn allweddol i hynny, wedi'i ddilyn gan waith rhagweithiol a gwaith wedi'i dargedu.

Byddwch yn gweld ein bod eisoes wedi gwneud mwy o waith rhagweithiol i wneud yn siŵr bod cwmnïau'n cyrraedd y safonau rydym yn eu disgwyl. Mae mwy o ymweliadau rhagweithiol â chwmnïau – a mwy o ddirwyon – wedi gweld cynnydd mewn cydymffurfiaeth o ran atal gwyngalchu arian. Ac o haf 2023 ymlaen, fe wnaethom ddechrau defnyddio adnodd gorfodi newydd – cosbau ariannol penodedig – i symud yn gyflymach lle rydym ni'n canfod nad yw cwmnïau'n cyrraedd ein disgwyliadau.

Rhaid i ni wneud penderfyniadau da a theg, ond mae er budd pawb i achosion gael eu cwblhau'n gyflym. Ac rwy'n falch ein bod yn gwneud cynnydd yn hynny o beth. Er enghraifft, rydym wedi lleihau'n sylweddol nifer yr ymchwiliadau hirsefydlog – i lawr o 286 achos o'r fath ym mis Hydref 2022 i 59 ym mis Awst 2024. Mae mwy i'w wneud o hyd, ond rydym yn mynd i'r cyfeiriad cywir.

Gobeithio y bydd y trosolwg o feysydd allweddol ein gwaith yn ddiddorol a'r mewnwelediadau a'r dadansoddiad yn yr adroddiadau hyn yn ddefnyddiol.

Anne Bradley, Cadeirydd Bwrdd yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr