Adroddiad blynyddol addysg a hyfforddiant 2022/23
Cyhoeddwyd 2024
English Cymraeg
Mae pobl sy'n defnyddio gwasanaethau cyfreithiol eisiau gwybod y gallant ymddiried mewn cyfreithwyr a bod â ffydd ynddynt. Rydym yn gosod y safonau i sicrhau bod y rhai sy'n ymuno â'r proffesiwn yn gymwys.
Rydym am i bawb sy'n ymuno â'r proffesiwn fodloni'r un safonau proffesiynol uchel. Ym mis Medi 2021 cyflwynwyd un asesiad trylwyr, sef yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE). Roedd yn disodli'r llwybrau blaenorol at gymhwyso fel cyfreithiwr, gan gefnogi cysondeb o ran safonau ac annog mwy o hyblygrwydd a dewis o ran hyfforddiant. Nod yr hyblygrwydd hwn, sy'n cynnwys opsiynau 'ennill wrth ddysgu', yw cynyddu cyfleoedd i'r disgleiriaf a'r gorau o bob cefndir fod yn gymwys.
Gair am yr adroddiad hwn
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am ein gwaith yn y maes hwn, gan ganolbwyntio ar ddata ynghylch faint o bobl sy'n cymhwyso drwy wahanol lwybrau at y proffesiwn. Mae'n cynnwys data newydd ar gyfer y cyfnod rhwng Tachwedd 2022 a Hydref 2023 ac mae'n tynnu sylw at dueddiadau allweddol dros gyfnod o saith mlynedd*. Mae'n rhan o gyfres o adroddiadau sy'n ymdrin â'n gwaith ar gyfer blwyddyn 2022/23.
Dyma'r meysydd y mae'r adroddiad yn ymdrin â nhw:
- llwybrau at gael eich derbyn fel cyfreithiwr
- cyfnodau o hyfforddiant cydnabyddedig
- prentisiaethau cyfreithwyr
- hawliau uwch i ymddangos yn y llys.
Rydym yn cyhoeddi rhagor o ddata a gwybodaeth fanwl am yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr a llwybrau hyfforddi eraill mewn mannau eraill. Mae hyn yn cynnwys adroddiadau ystadegol ar ôl pob asesiad o'r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr, adroddiadau blynyddol ar yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr, gan gynnwys dadansoddiad gan adolygydd annibynnol, ac adroddiad sicrhau ansawdd blynyddol ar y Cwrs Ymarfer y Gyfraith (LPC).
* Sylwch fod ein blwyddyn fusnes yn rhedeg o 1 Tachwedd i 31 Hydref. Oni nodir yn wahanol, mae'r ffigurau'n ymwneud â 31 Hydref 2023 - diwedd y flwyddyn adrodd.
Crynodeb o'r prif ganfyddiadau
- Gwelwyd cynnydd cyson yn nifer y bobl sy'n cymhwyso fel cyfreithwyr bob blwyddyn. Mae'r niferoedd wedi codi tua thraean wrth gymharu 2022/23 â 2016/17.
- Mae'r data'n dangos ein bod mewn cyfnod pontio o ran derbyn unigolion i'r proffesiwn. Mae'r rhan fwyaf o gyfreithwyr – tua 75 y cant – yn dal i gymhwyso drwy hen lwybr Cwrs Ymarfer y Gyfraith. Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd nesaf, bydd llai o bobl yn gymwys i ddilyn y llwybr hwn, a bydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o bobl sefyll yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr i gymhwyso.
- Mae'r niferoedd sy'n cymhwyso drwy'r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr eisoes yn cynyddu, gyda chynnydd o 437 yn 2021/22 i 1,469 yn 2022/23. Mae'r mwyafrif o'r unigolion hynny yn gyfreithwyr cymwys - mae'r rhain yn gyfreithwyr sydd wedi cymhwyso mewn awdurdodaethau eraill neu'n gyfreithiwr cymwys yng Nghymru a Lloegr, fel bargyfreithiwr.
- Mae prentisiaethau cyfreithwyr yn gallu rhoi mwy o gyfleoedd i bobl o bob cefndir ddod yn gyfreithwyr. Mae'r niferoedd yn parhau i dyfu, gyda chofrestriadau newydd 2022/23 yn codi traean o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol (777 o'i gymharu â 584).
- Dros y cyfnod o saith mlynedd, gwelwyd cynnydd graddol yn nifer y cyfreithwyr sydd â chymhwyster hawl i ymddangos yn y llys, sy'n eu galluogi i weithredu fel eiriolwr yn y llysoedd uwch, fel Llys y Goron a'r Llys Apêl. Mae'r cynnydd wedi cael ei sbarduno gan y rheini sy'n ennill y cymhwyster i ymddangos mewn achosion sifil, ac mae gostyngiad wedi bod yn nifer y rheini sydd â hawliau ar gyfer achosion troseddol.
Mae cyfreithwyr yn ymuno â'r proffesiwn ar hyn o bryd drwy amrywiaeth o lwybrau. Fwyfwy, bob blwyddyn, bydd cyfreithwyr yn ymuno â'r proffesiwn drwy gymryd a phasio dwy ran yr asesiad Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE1 ac SQE2).
Mae trefniadau pontio ar waith o hyd ar gyfer darpar gyfreithwyr a ddechreuodd ar eu taith i gymhwyso cyn cyflwyno'r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr:
- Dilyn gradd gymhwyso yn y gyfraith neu radd nad yw'n gysylltiedig â'r gyfraith a'r arholiad proffesiynol cyffredin, wedi'i ddilyn gan y Cwrs Ymarfer y Gyfraith ac yna cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig (PRT).
- Cymhwyso fel cyfreithiwr dan y Cynllun Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig (QLTS).
- Cymhwyso fel Swyddog Cyfreithiol Siartredig ac yna mynd ymlaen i wneud y Cwrs Ymarfer y Gyfraith.
- Ymgeisio fel clerc ynadon cynorthwyol (mae amodau'n berthnasol).
- Dulliau cyfwerth (EQM). Mae hyn yn caniatáu i unigolion gymhwyso drwy ddangos eu bod wedi bodloni ein gofynion ar gyfer cam penodol o hyfforddiant drwy ddangos bod ganddynt brofiad cyfwerth.
Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw wedi bod yn bosibl dechrau ar lwybr at gymhwyso fel cyfreithiwr gan ddefnyddio un o'r llwybrau uchod ers diwedd 2021.
Gall cyfreithwyr o'r Swistir sydd hefyd yn gyfreithiwr Ewropeaidd cofrestredig (REL) wneud cais drwy'r llwybr cyfreithiwr Ewropeaidd cofrestredig. Dyma'r unig bobl sy'n gallu gwneud cais drwy'r llwybr hwn ar ôl i'r DU adael yr UE yn 2020.
Mae'r tabl isod yn dangos nifer yr unigolion a ymunodd â'r proffesiwn o bob llwybr rhwng 2016 a 2023. Mae nifer y cyfreithwyr newydd sydd wedi ymuno â'r proffesiwn wedi cynyddu'n gyson dros y saith mlynedd diwethaf, gyda chyfartaledd o tua 7,200 y flwyddyn. Roedd nifer yr unigolion a ymunodd â'r proffesiwn yn 2022/23 wedi cyrraedd 8,819, y nifer uchaf erioed yn y saith mlynedd diwethaf.Mae hyn oherwydd y niferoedd uwch na'r cyfartaledd o unigolion a gymhwysodd drwy lwybr Cwrs Ymarfer y Gyfraith. Mae hyn yn debygol oherwydd bod y pandemig wedi achosi oedi i rai pobl rhag dechrau eu cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig yn 2020. Roedd hyn, yn ei dro, yn golygu bod oedi cyn iddynt gael eu derbyn i'r proffesiwn – ac rydym nawr yn dechrau gweld yr unigolion hyn yn cael eu derbyn.
Fe wnaeth nifer y Cyfreithwyr Ewropeaidd Cofrestredig a gafodd eu derbyn i'r proffesiwn wastatáu yn 2021/22. Ar ôl i'r DU adael yr UE yn 2020, dim ond cyfreithwyr y Swistir sydd wedi gallu cymhwyso drwy'r llwybr hwn ers mis Ionawr 2021, fel y trafodir uchod.
Mae nifer yr unigolion sy'n ymuno â'r proffesiwn drwy'r llwybr Cynllun Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig wedi dyblu bron yn 2021/22. Y dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr sy'n dymuno cymhwyso drwy'r llwybr hwn oedd 31 Mawrth 2024, wrth i ni symud tuag at bob ymgeisydd yn eistedd Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr. Rydyn ni'n disgwyl y bydd y niferoedd yn gostwng pan fyddwn ni'n adrodd ar y niferoedd hyn nesaf.
2016/17 | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
SQE | - | - | - | - | - | 437 | 1,469 |
LPC | 5,513 | 5,575 | 5,744 | 5,475 | 5,723 | 5,195 | 6,633 |
QLTS | 541 | 603 | 521 | 605 | 688 | 1,307 | 341 |
CILEX a chlercod ynadol cynorthwyol | 251 | 323 | 343 | 324 | 352 | 240 | 260 |
Gweriniaeth Iwerddon | 136 | 131 | 188 | 124 | 149 | Gweler y dadansoddiad o'r derbyniadau yn ôl llwybr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) | Gweler y dadansoddiad o'r derbyniadau yn ôl llwybr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) |
Gogledd Iwerddon | 17 | 28 | 35 | 31 | 41 | Gweler y dadansoddiad o'r derbyniadau yn ôl llwybr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) | Gweler y dadansoddiad o'r derbyniadau yn ôl llwybr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) |
EQM | 71 | 85 | 88 | 99 | 109 | 114 | 110 |
REL | 53 | 34 | 76 | 60 | 100 | - | 1 |
QLTT | 24 | 7 | 8 | 5 | 9 | 5 | 5 |
Other | 1 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Arall | 6,607 | 6,786 | 7,003 | 6,723 | 7,171 | 7,298 | 8,819 |
Sylwch:
- Roedd y Prawf Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig (QLTT) yn rhagflaenydd i'r Cynllun Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig (QLTS) ond cafodd ei ddiddymu'n raddol a'i ddisodli ganddo. Mae nifer fach o unigolion yn dal i ymuno â'r proffesiwn drwy'r llwybr hwn.
- Gall 'arall' olygu bod yr unigolyn wedi cael ei dderbyn drwy gais am eithriad Morgenbesser (mae'r term hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cymhwyso'n rhannol o dan gymhwyster yr UE ac wedi gallu gwneud cais am eithriadau yn ein proses derbyn).
- Mae rhai o'r ffigurau hyn ychydig yn wahanol i'r rhai rydym wedi'u nodi mewn blynyddoedd blaenorol. Rydym nawr yn casglu'r wybodaeth hon mewn ffordd newydd ac rydym wedi adolygu data'r gorffennol. Mae'r dull newydd hwn yn rhoi mwy o eglurder ynghylch pa lwybr y mae ymgeisydd wedi'i ddilyn, ac mae mwy o lwybrau wedi'u nodi yn y siart uchod. Rydym wedi cywiro unrhyw wallau data yn y gorffennol yn y tabl uchod.
- Bob blwyddyn, rydym yn gwrthod llond llaw o ymgeiswyr. Yn gyffredinol, y rhesymau yw bod yr ymgeisydd wedi methu â datgelu darn pwysig o wybodaeth sy'n ymwneud â'i gymeriad neu ei addasrwydd, neu ei fod wedi methu â bodloni ein gofynion. Mae nifer y ceisiadau rydym yn eu gwrthod bob blwyddyn yn gyfyngedig gan fod rhai pobl yn tynnu eu ceisiadau yn ôl pan nad ydynt yn gallu bodloni ein gofynion. Mae rhagor o wybodaeth yn ein hadroddiad Awdurdodi.
Dadansoddiad o'r derbyniadau yn ôl llwybr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE)
Mae'r wybodaeth yn yr adran hon yn dangos dadansoddiad o'r unigolion a oedd wedi cymhwyso drwy'r llwybr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr. Mae'r unigolion hyn yn cynnwys:
- unigolion a fu'n llwyddiannus yn Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 1 ac Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 2 (ac eithrio prentisiaid)
- unigolion sy'n brentisiaid ac sydd wedi llwyddo yn Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 1 ac Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 2
- cyfreithwyr cymwysedig.
Mae nifer yr unigolion sy'n cymhwyso drwy'r llwybr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr yn parhau i dyfu wrth iddo ddod yn brif lwybr tuag at y proffesiwn. Cynyddodd niferoedd o 437 yn 2021/22 i 1469 yn 2022/23.
Roedd y rhan fwyaf o'r unigolion a oedd wedi cymhwyso drwy'r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr rhwng 2021 a 2023 yn gyfreithwyr cymwysedig. Gall yr unigolion hyn fod yn gyfreithwyr sydd wedi cymhwyso mewn awdurdodaethau eraill neu'n gyfreithiwr cymwysedig yng Nghymru a Lloegr, fel bargyfreithiwr. Disgwyliwn weld cynnydd yn nifer yr unigolion a dderbynnir i'r proffesiwn nad ydynt eisoes yn gyfreithwyr cymwysedig (gweler y ffigurau yn nwy golofn gyntaf y tabl) yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Mae cyfreithwyr Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon yn cael eu hystyried yn gyfreithwyr cymwysedig, ac mae nifer yr unigolion sy'n gymwys o'r awdurdodaethau hyn yn cael eu nodi o dan 'gyfreithwyr cymwysedig' yn y tabl isod.
Unigolion a fu'n llwyddiannus yn Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 1 ac Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 2 (ac eithrio prentisiaid) | Unigolion sy'n brentisiaid ac sydd wedi llwyddo yn Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 1 ac Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 2 | Cyfreithwyr cymwysedig | Cyfanswm y derbyniadau yn ôl llwybr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) | |
---|---|---|---|---|
2021/22 | 162 | 19 | 256 | 437 |
2022/23 | 325 | 64 | 1,080 | 1,469 |
Yn ystod gwanwyn 2024, fe wnaethom gyhoeddi ail flwyddyn o adroddiadau gan ddarparwr asesu'r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr, Kaplan, a gan Adolygydd Annibynnol yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr, a oedd yn adolygu'r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr. Dangoson nhw fod yr arholiad wedi parhau i berfformio'n dda. Dywedodd Adolygydd Annibynnol yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr fod y gwaith o gyflawni'r asesiad wedi gwella o un flwyddyn i'r llall a bod yr asesiadau'n deg ac yn ddibynadwy, gan gydnabod bod rhai problemau gweithredol wedi codi.
Nid yw adroddiad blynyddol yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr ar gyfer 2022/23 yn ymdrin â'r cyfnod pan wnaed camgymeriad yng nghyfrifiad cychwynnol canlyniadau Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 1 yn Ionawr 2024, lle cafodd 175 o ymgeiswyr wybodaeth anghywir eu bod wedi methu un rhan o Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 1, neu'r ddwy ran. Cafodd yr holl ganlyniadau ar gyfer yr arholiad hwnnw eu hailgyhoeddi. Digwyddodd y gwall wrth ddefnyddio'r sgoriau wedi'u graddio ar gyfer canlyniadau Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 1 am y tro cyntaf. Bydd y gwall hwn, ynghyd â newidiadau diweddar i wella profiadau ymgeiswyr, yn cael sylw yn set nesaf adroddiadau blynyddol yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr.
O dan y llwybr Cwrs Ymarfer y Gyfraith, rydyn ni'n awdurdodi sefydliadau i ddarparu cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig, sef rhan o hyfforddiant cyfreithiwr sy'n seiliedig ar waith. Mae oddeutu tri chwarter y rhain yn gwmnïau cyfreithiol, ac mae'r gweddill yn dimau cyfreithiol mewnol neu'n ganolfannau cyfraith. Gan nad yw cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig yn rhan o'r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr, ni fydd angen i ni awdurdodi sefydliadau i'w ddarparu mwyach, a byddwn yn dechrau gweld y niferoedd hyn yn gostwng.
2016/17 | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 |
---|---|---|---|---|---|---|
5,497 | 5,746 | 5,877 | 6,219 | 6,339 | 6,473 | 6,561 |
Mae cymhwyso drwy brentisiaeth cyfreithiwr yn cynnig cyfle i ennill cyflog wrth ddysgu yn y swydd. Mae'n rhoi mwy o gyfleoedd i bobl o bob cefndir ddod yn gyfreithwyr.
Rydym yn falch o weld bod nifer yr unigolion sy'n cofrestru fel prentisiaid cyfreithwyr yn parhau i gynyddu. Bydd pob prentis cyfreithiwr yn rhoi cynnig ar Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 1 ac Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 2.
Daw'r ffigurau isod o haf bob blwyddyn.
Cofrestriadau newydd o brentisiaethau cyfreithwyr
2016/17 | 2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 |
---|---|---|---|---|---|---|
30 | 107 | 170 | 242 | 222 | 584 | 777 |
Yn yr asesiadau rydym ni wedi'u gweld hyd yma, mae cyfraddau pasio'r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr ar gyfer prentisiaid wedi bod yn uwch ar y cyfan nag ar gyfer ymgeiswyr eraill.
Mae cymhwyster hawliau uwch i ymddangos yn y llys yn caniatáu i gyfreithwyr weithredu fel eiriolwr yn yr uwch lysoedd. Sef Llys y Goron, yr Uchel Lys, y Llys Apêl a'r Goruchel Lys yng Nghymru a Lloegr. Mae nifer y cyfreithwyr rydym ni'n eu rheoleiddio sydd â hawliau uwch i ymddangos yn y llys i'w gweld yn y tabl isod.
Dros y saith mlynedd diwethaf, gwelwyd cynnydd graddol yn nifer y cyfreithwyr sydd â hawliau uwch i ymddangos yn y llys. Mae hyn yn bennaf oherwydd y cynnydd yn nifer yr unigolion sydd â chymhwyster i ymddangos mewn achosion sifil, tra bu gostyngiad yn y rhai sydd â hawliau ar gyfer achosion troseddol a gostyngiad bach yn y rhai sydd â'r ddau.
Mae'r canrannau'n cynrychioli cyfran o faint o unigolion sydd â hawl i ymddangos mewn achosion sifil, achosion troseddol, neu'r ddau ym mhob blwyddyn benodol.
Sylwch nad yw niferoedd yn dod i 100% o bosibl, a hynny oherwydd talgrynnu.
Sifil | Troseddol | Y ddau | Cyfanswm | |
---|---|---|---|---|
2015/16 | 1,947 (29%) | 3,305 (49%) | 1,483 (22%) | 6,735 |
2016/17 | 2,131 (31%) | 3,272 (48%) | 1,464 (21%) | 6,867 |
2017/18 | 2,279 (33%) | 3,200 (46%) | 1,437 (21%) | 6,916 |
2018/19 | 2,439 (35%) | 3,153 (45%) | 1,417 (20%) | 7,009 |
2019/20 | 2,533 (35%) | 3,160 (44%) | 1,444 (20%) | 7,137 |
2020/21 | 2,714 (38%) | 3,087 (43%) | 1,408 (20%) | 7,209 |
2021/22 | 2,804 (39%) | 3,017 (42%) | 1,388 19% | 7,209 |
2022/23 | 2,851 (40%) | 2,967 (41%) | 1,353 (19%) | 7,171 |
- Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEX)
- Corff aelodaeth sy'n darparu hyfforddiant i ddod yn weithredwr cyfreithiol. Mae rheoliad y Sefydliad yn rheoleiddio aelodau'r Sefydliad.
- Dulliau cyfwerth (EQM)
- Llwybr at gael eich derbyn fel cyfreithiwr, sy'n caniatáu i unigolion ddangos eu bod wedi bodloni ein gofynion ar gyfer cam penodol o hyfforddiant drwy ddangos bod ganddynt brofiad cyfatebol.
- Cwrs Ymarfer y Gyfraith (LPC)
- Cwrs hyfforddi gorfodol a ddilynir fel arfer ychydig cyn y cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig o dan drefniadau pontio llwybr Cwrs Ymarfer y Gyfraith. Mae'n cyfuno hyfforddiant academaidd ac ymarferol, i baratoi myfyrwyr ar gyfer gweithio mewn cwmni cyfreithiol neu dîm cyfreithiol mewnol.
- Cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig (PRT)
- Dysgu gorfodol seiliedig ar waith o dan lwybr y Cwrs Ymarfer y Gyfraith, fel arfer mewn cwmni cyfreithiol neu dîm cyfreithiol mewnol, sy'n rhan o'r cam galwedigaethol yn y llwybr i gymhwyso fel cyfreithiwr.
- Cynllun Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig (QLTS)
- Roedd y cynllun hwn yn cynnwys asesiadau yr oedd yn rhaid i bobl eu cymryd os oeddent eisoes wedi cymhwyso fel cyfreithiwr mewn awdurdodaeth arall ac yn awyddus i gymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. Bydd bargyfreithwyr sydd wedi cymhwyso yng Nghymru a Lloegr ac a oedd yn dymuno croesgymhwyso fel cyfreithiwr hefyd wedi gallu cymhwyso drwy'r llwybr hwn. Mae'r Cynllun hwn wedi'i ddisodli gan yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr nawr.
- Prawf Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig (QLTT)
- Mae'r prawf hwn yn dyddio cyn y Cynllun Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig, ac yn perfformio'r un rôl ag ef. Cafodd ei ddiddymu'n raddol i raddau helaeth a'i ddisodli gan y Cynllun Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig. Mae nifer fach o unigolion yn dal i ymuno â'r proffesiwn drwy'r llwybr hwn.
- Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE)
- Un asesiad trylwyr, a gyflwynwyd ym mis Medi 2021, y bydd angen i bob darpar gyfreithiwr ei wneud i gymhwyso fel cyfreithiwr, maes o law. Mae wedi'i rannu'n ddwy ran, sef Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 1 ac Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 2, ac mae'n asesu gwybodaeth gyfreithiol ymarferol a sgiliau cyfreithiol ymarferol. I fod yn gymwys drwy'r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr, mae angen i ymgeiswyr basio Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 1 a 2, cael gradd neu gymhwyster cyfatebol, cael dwy flynedd o brofiad gwaith cymwys a phasio ein prawf cymeriad ac addasrwydd.